#

Y Pwyllgor Deisebau | 9 Gorffennaf 2019
 Petitions Committee | 9 July 2019
 
 
 ,Deiseb P-05-882: Camdriniaeth ddomestig a phobl hŷn 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-882

Teitl y ddeiseb: Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

• godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, sefydliadau’r trydydd sector ac asiantaethau statudol o nifer y menywod a’r dynion hŷn yng Nghymru sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig gan aelodau'r teulu, a

• sicrhau bod lefelau hanfodol o gefnogaeth a diogelwch ar gael i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth o'r fath.

Camdriniaeth ddomestig yn ddiweddarach mewn bywyd: 'Diystyru, anweledig ac anwybyddu'

Mae diffiniad y DU o gamdriniaeth ddomestig, ni waeth beth yw oedran yr unigolyn, fel a ganlyn: ‘Any incident or pattern of incidents of controlling, coercive or threatening behaviour, violence or abuse between those aged 16 or over, who are or have been intimate partners or family members regardless of gender or sexuality. This can encompass but is not limited to the following types of abuse - psychological, physical, sexual, financial, emotional and as a result of neglect'.

Amcangyfrifir bod cyfanswm nifer y bobl hŷn yng Nghymru sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig yn 40,000. Yn aml, mae camdriniaeth ddomestig pobl 60 oed neu hŷn, sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain, yn ffenomen sydd wedi’i chamddeall, sy’n cael ei hanwybyddu ac nad yw’n cael ei chydnabod, sydd ag effeithiau eang ar eu bywydau. Yn aml, ni ddefnyddir delweddau o bobl hŷn mewn ymgyrchoedd cyhoeddus ynghylch camdriniaeth ddomestig. Mae'n anodd i ddynion a menywod hŷn nodi eu hunain fel dioddefwyr posibl o gamdriniaeth ddomestig.

Mae'r mater wedi’i esgeuluso mewn polisi ac arfer o'i gymharu â grwpiau oedran eraill.

• Nid oedd yr Arolwg Trosedd ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys ystadegau ynghylch camdriniaeth ddomestig ar gyfer y rheini dros 59 oed, hyd at fis Ebrill 2017, pan gynyddwyd y terfyn oedran ar gyfer y sawl sy'n cymryd rhan yn yr arolwg i 74 oed (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2017) .

• Mae pobl hŷn â dementia mewn perygl uwch o gamdriniaeth oherwydd eu gallu diffygiol i geisio cymorth, eirioli drostynt eu hunain neu dynnu eu hunain o sefyllfaoedd a allai fod yn gamdriniaeth.

• Mae anabledd hefyd yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd rhywun yn dioddef camdriniaeth.

Gwybodaeth ychwanegol

A yw pobl hŷn yn ceisio cymorth?

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod pobl hŷn yn llai tebygol o roi gwybod am gamdriniaeth na grwpiau oedran iau; nid ydynt yn defnyddio gwasanaethau arbenigol y trydydd sector ac maent hefyd eisiau cymorth i'r un sy’n cam-drin.

Ar lefel unigolyn efallai y bydd llawer o resymau pam nad yw pobl hŷn yn ceisio cymorth:

• Teimlad camsyniol eu bod rhywsut yn gyfrifol am y gamdriniaeth;

• Ofn ôl-effaith gan y tramgwyddwr;

• Lefel uwch o ddibyniaeth emosiynol, ariannol a chorfforol ar eu tramgwyddwr na'u cymheiriaid iau;

• Nid ydynt eisiau troi’r un sy’n cam-drin, a allai fod yn blentyn neu'n ŵyr neu’n wyres, yn droseddwr.

Ar lefel fwy sefydliadol, mae rhwystrau i geisio cymorth yn cynnwys:

• Gall ffactorau o ran cenhedlaeth, gan gynnwys syniadau o breifatrwydd sy’n ymwneud â’r cartref a pherthnasoedd agos, fod yn rhwystr i geisio cymorth. (Zink et al, 2004, 2005).

• Mae ein gwaith ymchwil yn dangos nad yw'r gwasanaethau presennol yn addas ar gyfer dioddefwyr hŷn. Yn aml, caiff gwasanaethau eu teilwra i symud y goroeswr sy’n dioddef i ffwrdd o’r un sy’n cam-drin drwy adleoli o’r cartref teuluol a'r gymuned.

• Mewn sawl achos, mae pobl hŷn sy’n dioddef eisiau cynnal perthynas â'r person sy’n cam-drin, yn enwedig os mai plentyn neu ŵyr neu wyres sy’n oedolyn sy’n cam-drin. (Gwaith ymchwil gan SafeLives yn 2016 a Sprangler & Brandl, 2007).

• Mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn aml yn gweld pobl hŷn fel grŵp o oedolion unffurf sy'n agored i niwed na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain. (Harbison, 2012).


 

Deddfwriaeth berthnasol yng Nghymru

Yn sgil Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a ddaeth i rym gan fwyaf yn 2016, cyflwynwyd trefniadau newydd i ddiogelu oedolion. Mae Rhan 7 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer diogelu oedolion sydd mewn perygl a phlant sydd mewn perygl.  Mae'r trefniadau newydd yn cynnwys:

§  dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ymchwilio os ydynt yn amau bod oedolyn ag anghenion gofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod lleol yn eu diwallu ai peidio) wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso;

§  cyflwyno gorchmynion amddiffyn a chynorthwyo oedolion at ddiben asesu, gan gynnwys mynediad trwy rym i eiddo (ond nid i symud unigolion);

§  gofynion ar awdurdodau lleol a phartneriaid perthnasol (e.e. y GIG, yr heddlu) i roi gwybod am bryderon ynghylch cam-drin neu esgeuluso;

§  byrddau diogelu ar gyfer oedolion a phlant (yn flaenorol roedd byrddau diogelu ar gyfer plant yn unig), a

§  sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol newydd i ddarparu cymorth a chyngor i sicrhau bod Byrddau Diogelu yn effeithiol.  

Derbyniodd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015 a daeth i rym rhwng 30 Mehefin 2015 a 4 Ionawr 2016. Prif nodau'r Ddeddf yw:

§  gwella trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;

§  gwella trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr camdriniaeth a thrais o'r fath;

§  gwella cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan gamdriniaeth a thrais o'r fath;

§  penodi Ymgynghorydd Cenedlaethol i wella cydweithio rhwng cyrff cyhoeddus ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

O dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru baratoi a chyhoeddi Strategaeth Genedlaethol i gyfrannu at nodau'r Ddeddf a rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol baratoi a chyhoeddi strategaethau lleol.

Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i adrodd ar sut y maent yn mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysgol.

Ystadegau

Mae'r data canlynol yn ymwneud ag oedolion yr amheuir eu bod yn wynebu risg fel y nodir yn Rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae ystadegau (arbrofol) Llywodraeth Cymru ar ddiogelu oedolion yn dangos yr hysbyswyd awdurdodau lleol ynghylch 13,741 o oedolion yr amheuir eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn ystod 2017-18. 

Mae'r data'n nodi categorïau o gam-drin a nifer yr adroddiadau ar gyfer oedolion 18-64 oed a 65 oed a throsodd.  Yn achos cam-drin domestig, er enghraifft, roedd 1,953 o adroddiadau yn ymwneud ag oedolion 18-64 oed ac 1,611 o adroddiadau am oedolion 65 oed a throsodd.  O ran y rhai 65 oed a throsodd, menywod oedd y rhan fwyaf o'r dioddefwyr honedig: 1,085, o'i gymharu â 526 o ddynion.

Yn 2017-18, daeth 5,724 o ymholiadau i adroddiadau yn ymwneud â cham-drin i'r casgliad bod angen i’r awdurdod lleol weithredu, er bod llai na hanner y rhain wedi digwydd yng nghartref yr unigolyn - 2,514.  O'r 6,044 o dramgwyddwyr honedig, gweithwyr cyflogedig oedd y categori mwyaf - 2,809, ac yna perthynas/ffrind (1,751), defnyddiwr gwasanaeth arall (606), gwirfoddolwyr/gweithwyr di-dâl (50), ac 828 'arall'. 

Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn cael ei rheoli gan Gymorth i Fenywod Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.  Mae'r wefan yn darparu'r wybodaeth ganlynol:

Gall Byw Heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer:

• unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig

• pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth. Er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr

• ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol.

Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy’n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n llawn.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gwneud Atal cam-drin pobl hŷn yn flaenoriaeth yn ei rhaglen waith.  Mae wedi ymrwymo i'r camau canlynol:

Bydd y Comisiynydd yn gweithredu i:

§  Codi ymwybyddiaeth o gam-drin pobl hŷn ymhlith gweithwyr proffesiynol ac ar draws y gymdeithas ehangach

§  Gwella mynediad at wasanaethau cefnogaeth i bobl hŷn sydd â risg o gael eu cam-drin

§  Galluogi mwy o bobl hŷn sy'n cael eu cam-drin i gael mynediad at gyfiawnder cyfreithiol

§  Atal cam-drin pobl hŷn

Gwaith yn ystod 2019-20

Ymchwil i benderfyniadau’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron mewn perthynas ag ymchwiliadau diogelu

Mae data sy'n ymwneud â throseddu a'r system cyfiawnder troseddol yn dangos bod cyfraddau erlyn a chollfarnu ar gyfer troseddau yn erbyn pobl hŷn yn annodweddiadol o isel o'u cymharu â'r boblogaeth gyfan, yn enwedig mewn achosion sy'n ymwneud â diogelu, cam-drin ac esgeuluso mewn cartrefi gofal ac ysbytai.

Bydd y Comisiynydd yn gwneud gwaith ymchwil, gan weithio gyda'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i edrych ar yr effaith y mae penderfyniadau yn eu cael ar ymchwiliadau sy'n ymwneud â diogelu a mynediad canlynol pobl hŷn at gyfiawnder. Drwy adolygu data a chanlyniadau sy'n ymwneud â thros 400 o achosion diogelu ledled Cymru, nod y Comisiynydd yw nodi ffyrdd posibl o wella ymchwiliadau a hyfforddiant diogelu ac a ellir gwella'r ddeddfwriaeth bresennol.

Deall yr hyn sy'n ysgogi unigolion i gam-drin ac esgeuluso pobl hŷn

Mae deall beth sy'n ysgogi unigolion i gam-drin neu esgeuluso pobl hŷn yn rhan hanfodol o nodi'r ffyrdd y gellid atal gweithredoedd o'r fath.

Bydd y Comisiynydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau trafod fydd yn dod â sefydliadau ac unigolion allweddol at ei gilydd - gan gynnwys yr heddlu, timau diogelu, byrddau iechyd, sefydliadau trydydd sector ac arbenigwyr eraill - i ystyried y symbyliad y tu ôl i gam-drin ac esgeuluso a sut y dylid mynd i'r afael â hyn. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddefnyddio hefyd i nodi a rhannu arfer da sy'n gysylltiedig ag atal cam-drin ac esgeuluso y gellid ei gyflwyno'n ehangach i ddiogelu ac amddiffyn pobl hŷn. 

Hyfforddiant diogelu i weithwyr proffesiynol

Mae'n hanfodol bod gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill yn gallu adnabod arwyddion cam-drin a deall y cymorth sydd ar gael i amddiffyn a diogelu pobl hŷn sydd wedi cael eu cam-drin.

Bydd y Comisiynydd yn darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol wella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r cam-drin sy'n wynebu pobl hŷn, gan drafod amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys graddfa a natur y cam-drin, y cysylltiadau rhwng gwahaniaethu ar sail oedran a cham-drin, hawliau pobl hŷn a'r gwasanaethau sydd ar gael a all gynnig help a chymorth.

Ochr yn ochr â darparu'r hyfforddiant hwn, bydd y Comisiynydd hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu modiwl hyfforddiant fydd yn eu galluogi i ddarparu hyfforddiant mewnol er mwyn rhwystro camdriniaeth i'w staff, a chynyddu'n sylweddol nifer y gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael y cyfle i gwblhau hyfforddiant o’r math hwn.

Adnabod a mapio gwasanaethau cynnal

Tra bod llawer o wasanaethau ar gael ledled Cymru ar gyfer pobl sy'n cael eu cam-drin, yn aml mae’n anodd i bobl hŷn wybod lle i fynd i gael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Bydd y Comisiynydd yn adnabod ac yn mapio'r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi pobl hŷn sydd wedi dioddef (neu sy'n dioddef) cam-drin ac yn datblygu set o adnoddau i sicrhau eu bod yn gallu dod o hyd i wybodaeth am y gwasanaethau cynnal yn eu hardal ac yn gallu cael y mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i fod yn ddiogel.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.